Joining Forces Cymru 2
Joining Forces Wales 2
Trosolwg o'r prosiect
Gwasanaethau
Ffurflen gofrestru ar-lein
Trosolwg o'r prosiect
Mae Joining Forces Cymru 2 yn rhaglen drosglwyddo technoleg flaenllaw ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu yng Nghymru, ac fe'i hariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Amcan y rhaglen tair blynedd, a sefydlwyd ym mis Awst 2007, yw helpu cwmnïau gweithgynhyrchu peirianegol i gyflawni twf cynaliadwy trwy ddod yn fwy proffidiol a chystadleuol. Darperir cymorth arbenigol, am ddim, fel y gall cwmnïau ddatblygu arloesedd ac arfer gorau yn rhwydd er mwyn gwella dylunio cynnyrch a dulliau gweithgynhyrchu.
Gwasanaethau
Adolygiadau o Gynnyrch a Phrosesau - 2 ddiwrnod
Astudiaethau Dichonoldeb - 5 niwrnod
Digwyddiadau Technegol - gweithdai rhyngweithiol
Printable Welsh / English leaflet summarising project
Printable Welsh / English leaflet on consultancy services
a mwy . . .
Desg Gymorth Dechnegol
Er mwyn cael mynediad un ag un at arbenigwyr am gyngor a gwybodaeth dechnegol am unrhyw faterion sy'n ymwneud ag uno defnyddiau, ffoniwch 01223 899 479 a gofynnwch am Ddesg Gymorth Cymru. Ceir cymorth ar y ffôn neu drwy e-bost. Mae'r cwmnïau sy'n gymwys yn cael mynediad diderfyn at y gwasanaeth am ddim hwn.
Arddangosyddion Technoleg
Yn yr Arddangosyddion Technoleg gallwch roi'r offer gweithio diweddaraf ar brawf a gweld dros eich hunain beth a ellir ei gyflawni ar eich defnyddiau neu eich cydrannau chi. Gallwch gymharu galluoedd gwahanol brosesau a thrafod materion megis dewis defnyddiau traul, ansawdd, hyfforddiant ac iechyd a diogelwch gydag arbenigwyr profiadol.
Ynghyd â chyngor diduedd a chymorth ymarferol, byddwch hefyd yn cael arweiniad ynghylch y materion tecno-economaidd hollbwysig hynny.
Mwy o wybodaeth am Arddangosyddion Technoleg.
Gallai eich sesiwn ymarferol mewn Arddangosydd Technoleg amlygu'r angen am gymorth dilynol a allai fod ar ffurf adolygiad o Gynnyrch a phrosesau - gweler yr hyn a ganlyn.
Adolygiadau o Gynnyrch a Phrosesau
Mae Adolygiadau o Gynnyrch a Phrosesau (PPRs) yn darparu 2 ddiwrnod o gefnogaeth dechnegol drylwyr i gwmnïau ar unrhyw agwedd o uno defnyddiau, a materion technegol cysylltiedig.
Yn ystod PPR, mae arbenigydd TWI yn ymweld â'ch cwmni. Gallai hyn fod yn ymarfer cywiro diffygion i ddatrys problem dechnegol benodol, neu gallai fod yn werthusiad o'ch arferion gweithgynhyrchu er mwyn clustnodi cyfleoedd i leihau costau neu chwilio am fannau lle gellir gwella cynhyrchedd, ansawdd neu iechyd a diogelwch. Darperir adroddiad ysgrifenedig sy'n crynhoi casgliadau'r PPR. I drefnu ymweliad, ffoniwch 01223 899 479 a gofynnwch am Ddesg Gymorth Cymru.
Astudiaethau Dichonoldeb
Mewn rhai achosion, mae angen cynnal arbrofion ymarferol neu waith datblygu i gadarnhau neu i ymhelaethu ar gasgliadau'r Adolygiad o Gynnyrch a Phrosesau (PPR). Yn y fath achosion, efallai mai Astudiaeth Ddichonoldeb, sy'n darparu 5 niwrnod o gefnogaeth dechnegol, fyddai'r ateb.
Efallai bydd yna gostau am ddefnyddiau, yn ôl natur yr Astudiaeth Ddichonoldeb. Bydd adroddiad ychwanegol yn rhoi tystiolaeth gadarn o fuddion dichonol gweithredu casgliadau'r PPR.
Hyfforddiant a Chymwysterau
Mae Joining Forces Cymru 2 yn rhoi cyngor am raglenni hyfforddiant ac ardystio er mwyn sicrhau bod personél yn meddu ar y cymwyseddau a'r sgiliau sydd eu hangen i fabwysiadu arferion newidiol a datblygu technolegau newydd.
Am fwy na thri degawd mae TWI wedi cynllunio a chyflenwi cyrsiau safonol a phwrpasol yn llwyddiannus i gwrdd ag anghenion diwydiant ledled y byd. Mae'r cyrsiau, sy'n gydnabyddedig yn rhyngwladol ac a achredwyd gan ddiwydiant, yn cynnwys technolegau weldio ac uno, arolygiaeth, profi annistrywiol, a phynciau perthnasol megis dylunio, nodweddion weldiadwy defnyddiau a thorri thermol.
Darperir hyfforddiant ar bob lefel ac mae hwn yn arwain at gymwysterau (CSWIP, Lloyds, ASNT, PCN, BGAS, ACCP, AWS, EWF) hyd at, ac yn cynnwys diplomâu proffesiynol a rhyngwladol mewn peirianneg. Ar gyfer cwsmeriaid yn y D.U., mae hyfforddiant ar gael ym Mhort Talbot yn TWI Cymru ac yng nghanolfannau technoleg TWI yng Nghaergrawnt, Middlesbrough a Sheffield. Gellir cynnal hyfforddiant yn adeiladau'r cwsmer hefyd.
Am fwy o wybodaeth gweler Hyfforddiant a Chymwysterau TWI.
Gwybodaeth ychwanegol am gwmpas Joining Forces Cymru 2
Diwydiannau
Mae Joining Forces Cymru 2 yn rhaglen ar gyfer cwmnïau mewn ystod eang o ddiwydiannau. Mae'r sectorau nodweddiadol yn cynnwys -
|
|
Defnyddiau
Mae'r rhaglen yn delio â'r holl ddefnyddiau peirianegol: metelau, plastigau, cyfansoddion, ffabrigau a cherameg.
Technolegau
Rydym yn cynnwys nid yn unig y technolegau galluogi allweddol megis weldio, presyddu a sodro, bondio adlyn a sicrhau mecanyddol, ond hefyd y technolegau perthynol megis -
|
|
Am fwy o wybodaeth am Joining Forces Cymru 2 anfonwch e-bost at Martin Bourton martin.bourton@twi.co.uk yn TWI.
Cofrestrwch yn awr i gael budd o Joining Forces Cymru 2
Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru er mwyn medru manteisio ar wasanaethau a gweithgareddau Joining Forces Cymru 2. Mae cofrestru yn caniatáu i chi hefyd weld ystod helaethach o wybodaeth am JoinIT - gwasanaeth cefnogaeth dechnegol ar-lein TWI.
I fod yn gymwys, rhaid bod eich cwmni wedi ei leoli yng Nghymru. Mae cwblhau a dychwelyd y ffurflen gofrestru ar-lein yn syml ac yn gyflym iawn.
Joining Forces Wales 2
Project overview
Services
Online registration form
Project overview
Part-financed by the Welsh Assembly Government, Joining Forces Wales 2 is a major technology transfer programme for manufacturing companies in Wales.
The objective of the three-year programme, which started in August 2007, is to help engineering manufacturing firms achieve sustainable growth by becoming more profitable and competitive. Joining Forces Wales 2 provides access to a wide range of technical resources throughout Wales. Free, expert help is provided so that companies can readily exploit innovation and best practice to improve product design and manufacturing methods.
Services
Collaboration to extend technical resources
Product & Process Reviews - 2 days
Feasibility Studies - 5 days
Technical Events - interactive workshops
Printable English / Welsh leaflet summarising project
Printable English / Welsh leaflet on consultancy services
and more . . .
Case Studies - plus Best Practice Reports & Guides generated through Joining Forces Wales
Technical Helpdesk
For one-to-one access to experts for advice and technical information on all materials joining issues call 01223 899 479 and ask for the Wales Helpdesk. Assistance is provided by 'phone or email. Eligible companies have unlimited access to this free service.
Collaboration to extend technical resources
TWI is collaborating with the Wales network of CETICs (Centres of Excellence in Technology and Industrial Collaboration) to complement its own resources -
Manufacturing Engineering Centre (MEC), Cardiff University: www.mec.cf.ac.uk
Materials Centre of Excellence, Swansea University: www.swan.ac.uk/mateng
Civil and Computational Engineering Centre (C2EC), Swansea University: www.swan.ac.uk/c2ec
Technology Demonstrators
At Technology Demonstrators you can try out up-to-date working equipment and see for yourself what can be achieved on your materials or components. You can compare the capabilities of different processes and discuss with experienced specialists concerns such as consumables selection, quality, training and health & safety.
As well as impartial advice and practical help, you'll also be able to get guidance on those all-important techno-economic issues.
More information on Technology Demonstrators.
Your hands-on session at a Technology Demonstrator might identify the need for follow-up assistance which could be in the form of a Product and process review - see immediately below.
Product & Process Reviews
Product & Process Reviews (PPRs) provide companies with 2 days intensive technical support in any aspect of materials joining, and related technical issues.
In a PPR, a TWI specialist visits your company. This may be a troubleshooting exercise to solve a specific technical problem, or it might be an evaluation of your manufacturing practices to identify opportunities for reducing costs or find where improvements in productivity, quality or health & safety can be made. A written report is provided summarising the findings of the PPR. To arrange a visit, call 01223 899 479 and ask for the Wales Helpdesk.
Feasibility Studies
In some cases, practical trials or development work are required to confirm or amplify the conclusion of a Product & Process Review (PPR). In such cases, a Feasibility Study, providing up to 5 days' technical support, might be the solution.
There may be material costs depending on the nature of the Feasibility Study. A further report gives you hard evidence of the potential benefits of implementing the findings of the PPR.
Training & Qualification
Joining Forces Wales 2 advises on training and certification programmes to ensure that personnel have the competence and skills to adopt changed practices and exploit new technologies.
For over three decades TWI has successfully designed and delivered its standard and tailor-made courses to meet industry needs world-wide. Internationally recognised and industry-accredited courses cover welding and joining technologies, inspection, non-destructive testing, and related subjects such as design, materials weldability and thermal cutting.
Training is provided at all levels and leads to qualifications (CSWIP, Lloyds, ASNT, PCN, BGAS, ACCP, AWS, EWF) up to and including professional and international diplomas in engineering. For UK customers, training is available from Port Talbot at TWI Wales and at TWI's Cambridge, Middlesbrough and Sheffield technology centres. Training can also be provided at the customer's premises.
For further information please see TWI Training and qualification.
Additional information on the scope of Joining Forces Wales 2
Industries
The Joining Forces Wales 2 programme is for companies from a broad range of industries. Typical sectors include -
|
|
Materials
The programme deals with all engineering materials: metals, plastics, composites, fabrics and ceramics.
Technologies
Not only are the key enabling technologies of welding, brazing, soldering, adhesive bonding and mechanical fastening covered, but also allied technologies such as -
|
|
For further information on Joining Forces Wales 2 please email Martin Bourton at TWI.
Register now to profit from Joining Forces Wales 2
You'll need to complete a registration form to benefit from the services and activities of Joining Forces Wales 2. Registration also allows you to see an expanded range of information on JoinIT - TWI's online technical support service.
To be eligible, your company must be based in Wales. The online registration form is very quick and easy to complete and return.
|
Noddir Joining Forces Cymru 2 yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Joining Forces Wales 2 is part-financed by the Welsh Assembly Government |
Copyright © 2007 TWI Ltd